#
Rhif y ddeiseb: P-05-817 Teitl y ddeiseb: Aelodau prosthetig arbenigol i blant
Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nawdd ar gael er mwyn darparu aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol i bob plentyn yng Nghymru sydd wedi colli coes / braich.
|
Y cefndir
Yng nghyllideb mis Mawrth 2016, ymrwymodd Llywodraeth y DU i fuddsoddi £1.5 miliwn mewn aelodau prosthetig i blant. Y bwriad oedd dyrannu’r arian, gan yr Adran Iechyd, rhwng 2016/17 a 2017/18 ac, ers hynny, penderfynwyd ymestyny cyfnod am ddwy flynedd arall.
Cronfa ar gyfer plant Lloegr sydd naill ai wedi’u geni heb aelod, neu sydd wedi colli aelod, yw hon, a chaiff ei defnyddio i dalu am aelod prosthetig arbenigol gan y GIG a fydd yn helpu plant i redeg, i nofio neu i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae arian o'r gronfa hon, sy’n cael ei galw’n Children’s Activity Prosthetic Fund, yn cael ei rannu rhwng canolfannau aelodau sy’n cael eu rhedeg gan y GIG yn Lloegr, i dalu am aelodau prosthetig, a’r Child Prosthetics Research Collaboration (a ariennir drwy’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR)), i gyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf yn y GIG.
Croesawyd y gronfa yn gyffredinol fel cam pendant ymlaen i helpu plant i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac i gyfrannu’n llawn at weithgareddau ymarfer corff yr ysgol a’r gymuned. Mae’r meini prawf cymhwystra a’r ffurflenni cais ar gyfer aelodau prosthetig arbenigolyn Lloegr i’w cael yma.
Cyllid ar gyfer aelodau prosthetig arbenigol i blant yng Nghymru
Nid yw GIG Cymru yn cael unrhyw arian penodol i ddarparu aelodau prosthetig arbenigol i blant.
Yng Nghymru, mae tair canolfan arbenigol (ALAC) sy’n darparu gwasanaethau adsefydlu gan y GIG i’r rhai sydd wedi colli aelod, neu sydd wedi cael aelod prosthetig, ac mae’r canolfannau hyn yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam. Caiff y gwasanaeth ei gomisiynu’n ganolog gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ar ran y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.
Mae Polisi Gwasanaeth Arbenigol WHSSC, sef 'Manyleb Gwasanaeth y Gwasanaethau Arbenigol: CP89 Gwasanaethau adsefydlu i’r rhai sydd wedi colli aelod a’r rhai sydd wedi cael aelod prosthetig' yn datgan (Saesneg yn unig):
Provision of a Recreational Upper Limb for a Child Definition A prosthetic solution that is provided to meet a specific need of the developing child. Examples could be a prosthesis specially manufactured to enable a child to ride a cycle safely etc Criteria for provision · To facilitate the child’s participation in school activities · To support the child’s clinical & psychological development |
|
|
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |